Er mwyn medru cyrraedd Patagonia ym mis Hydref 2008 a chodi arian sylweddol i Mencap rhaid i mi gael eich cymorth chi. A wnewch chi fy noddi felly os gwelwch yn dda. Y ffordd orau o ddigon, oherwydd manteision Cymorth Rhodd, yw trwy glicio ar y bocs ar chwith ynteu ymweld â gwefan justgiving (cliciwch ar yr enw).
Medrwch hefyd anfon siec wedi ei wneud yn daladwy i Mencap Promotions Ltd ataf yn 13 Pembroke Road, Treganna, Caerdydd, CF5 1QN. Mae croeso mawr i bob cyfraniad, mawr a bach, ond beth am ystyried rhoi unfed ran o'r cyfanswm sydd ei angen ac anfon £35?
Mae cyfleodd nawdd ar gael i gwmnïau hefyd. Os hoffech gyfrannu naill ai gydag arian nawdd ynteu trwy ddarparu offer ar gyfer y daith byddwn yn hapus iawn i gydnabod eich rhodd trwy gael eich logo yn ymddangos ar y wefan hon a thrwy gydnabod y rhodd yn gyhoeddus gyda datganiad i'r wasg. Os hoffech drafod y cyfleoedd posib yna cysylltwch â mi trwy gyfrwng e-bost.
|